Adroddiad drafft Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA(4)-18-14

 

COD YMARFER A ARGYMHELLIR AR GYHOEDDUSRWYDD AWDURDODAU LLEOL YNG NGHYMRU

 

Gwneir y Cod o dan bwerau a geir yn adran 4 Deddf Llywodraeth Leol 1986 i gyhoeddi cod ar gyhoeddusrwydd awdurdodau lleol.  Rhoddwyd y pwerau’n wreiddiol i’r Ysgrifennydd Gwladol, fe’u trosglwyddwyd i’r Cynulliad yn 1999, ac yna i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Cyhoeddwyd y Cod gwreiddiol gan y Cynulliad yn 2001, ac mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei ddiwygio fel a ddangosir gan dracio ar y fersiwn a osodwyd.  Yn unol ag adran 4(6) o Ddeddf 1986, ni chaniateir gwneud y diwygiadau nes bod 40 diwrnod wedi pasio ers gosod y drafft, a hynny os nad yw’r Cynulliad yn y cyfamser wedi pleidleisio na ddylid gwneud y diwygiadau.  Felly addasiad o’r weithdrefn negyddol yn gymwys i wneud diwygiadau i’r Cod.

 

Mae'r Cod hwn yn berthnasol i Gynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub a Chynghorau Tref a Chymuned

 

 

Gweithdrefn:  Negyddol, ond cyn i’r Cod diwygiedig gael ei gyhoeddi

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd pwyntiau technegol yn ymwneud â’r pwerau a ddefnyddir i wneud diwygiadau i’r Cod i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mehefin 2014